Categorïau trwydded yrru - hawliau ar eich trwydded a pha gerbydau y gallwch eu gyrru - ceir, beiciau modur, mopedau, lorïau maint canolog a mawr, bysiau mini a bysiau.
màs mewn trefn olynol o ddim mwy na 425kg (heb gynnwys batris os yw’n gerbyd trydan)
uchafswm terfyn cyflymder dros 25km/awr (15.5mya) ond dim mwy na 45km/awr (28mya)
Categori P Gallwch yrru cerbydau 2 olwyn ag uchafswm terfyn cyflymder o dros 45km/awr (28mph) ond dim mwy na 50km/awr (31mph). Ni ddylai maint ei injan fod yn fwy na 50cc os yw’n cael ei bweru gan beiriant tanio mewnol. Categori Q Gallwch yrru cerbydau 2 olwyn a 3 olwyn heb bedalau gyda:
maint injan dim mwy na 50cc os yw’n cael ei bweru gan beiriant tanio mewnol
uchafswm terfyn cyflymder dim mwy na 25km/awr (15.5mya)
Mae’r categori hwn hefyd yn cynnwys e-sgwteri treial.Beiciau modurCategori A1 Gallwch yrru beiciau modur ysgafn gyda:
maint injan hyd at 125cc
allbwn pŵer o hyd at 11kW
cymhareb pŵer i bwysau dim mwy na 0.1kW y kg
Mae’r categori hwn hefyd yn cynnwys beiciau modur tair olwyn ag allbwn pŵer hyd at 15kW. Categori A2 Gallwch yrru beiciau modur gydag:
allbwn pŵer hyd at 35kW
cymhareb pŵer i bwysau dim mwy na 0.2kW y kg
Ni ddylai’r beic modur fod yn deillio o gerbyd o fwy na dwbl ei bŵer. Gallwch hefyd yrru beiciau modur yn nghategori A1. Categori A Gallwch yrru:
beiciau modur ag allbwn pŵer mwy na 35kW neu gymhareb pŵer i bwysau mwy na 0.2kW y kg
beiciau modur tair olwyn ag allbwn pŵer mwy na 15kW
Gallwch hefyd yrru beiciau modur yn nghategorïau A1 ac A2.
A Introvert Cynical Gamer ːTheRoosterː Subscribe to my Youtube Channel https://www.youtube.com/channel/Ucyso-Nehujzur5hUBz6U-ZA https://www.tiktok.com/@creepcyn1cal